Os gwnaethoch hawlio Budd-dal Plant (Lwfans Teulu gynt) rhwng 1978 a 2010, dylech fod wedi cael Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref (HRP) yn awtomatig. Roedd hwn yn gynllun a luniwyd i helpu i ddiogelu hawl rhieni a gofalwyr i Bensiwn y Wladwriaeth.
Yn anffodus, ni chofnodwyd HRP yn gywir ar gyfer rhai pobl – gan olygu bod rhai cwsmeriaid wedi cael llai o Bensiwn y Wladwriaeth nag yr oedd ganddynt hawl iddo. Gan nad yw CThEF bellach yn cadw ceisiadau Budd-dal Plant hanesyddol, mae angen i gwsmeriaid a hawliodd Fudd-dal Plant rhwng 1978 a 2010 wirio a ydynt wedi’u heffeithio.
Os ydych yn gymwys, gallech gael taliad ychwanegol HRP a allai gynyddu eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Enghraifft
Enghraifft: Mae Jane yn 76 oed a chafodd alwad ffôn gan Tom, sy’n gweithio i gwmni rheoli ceisiadau. Roedd Tom yn gymwynasgar iawn ac esboniodd fod Jane yn colli arian a oedd yn ddyledus iddi. Ni sylweddolodd Jane ei bod wedi ymrwymo i gytundeb llafar â’r cwmni, a wnaeth reoli ei chais ar ei rhan. Ond pan dderbyniodd gyfandaliad o ôl-daliadau pensiwn, roedd y cwmni wedi cymryd 40% ohono.
A ydych yn gymwys i gael Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref sydd ar goll?
Mae CThEF yn cysylltu â chwsmeriaid a allai gael eu heffeithio, a’u gwahodd i wirio eu cymhwysedd a chwblhau ffurflen gais bapur.
Gallwch ddefnyddio gwiriwr ar-lein y llywodraeth i gadarnhau a ydych yn gymwys neu gysylltu â CThEF ar 0300 200 3500.
Gwneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref.
Os hoffech gael cymorth, mae’r sefydliadau canlynol yn cynnig cymorth dibynadwy am ddim:
- Cyngor ar Bopeth — ffoniwch 0800 702 2020 neu ewch i citizensadvice.org.uk or AdviceLink Cymru
- Carers UK — ewch i carersuk.org
- Eich meddyg teulu neu hwb cymunedol lleol — gofynnwch i’ch meddygfa neu’ch cyngor lleol pa gymorth sydd ar gael yn eich ardal
Gall llinell gymorth CThEF hefyd eich cefnogi gyda’ch cais.
Enghraifft
Enghraifft: Mae Sue yn 72 oed, yn fam i ddau o blant ac yn nain erbyn hyn. Roedd hi’n arfer cael Budd-dal Plant yn y 1990au pan oedd ei phlant yn iau. Doedd hi ddim, yn ymwybodol bod ei chofnod Yswiriant Gwladol yn anghyflawn oherwydd nad oedd Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref wedi’i gofnodi’n gywir, gan olygu nad oedd yn cael yr holl Bensiwn Gwladwriaeth yr oedd ganddi hawl iddo. Ar ôl siarad â CThEF, gwnaeth gais i ychwanegu’r Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref coll at ei chofnod drwy roi ychydig o fanylion, gan gynnwys dyddiad geni ei phlant. Roedd delio’n uniongyrchol â CThEF yn gyflym ac yn hawdd, ac nid yn unig cafodd ei phensiwn ei gynyddu £2,000 y flwyddyn, ond cafodd ei ôl-ddyddio hefyd, ac o ganlyniad, cafodd gyfandaliad o £10,000
Mae cynnwys yr enghreifftiau ar y dudalen we hon at ddibenion enghreifftiol yn unig.