Mae Lwfans Gweini yn helpu gyda chostau ychwanegol os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu’n hŷn ac os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd sy’n ddigon difrifol fel bod angen rhywun i helpu i ofalu amdanoch. Nid yw’n fudd-dal sy’n dibynnu ar brawf modd, felly mae’n bosibl y byddwch yn gymwys os oes angen y cymorth a’r gefnogaeth hon arnoch.
Os ydych yn byw yn yr Alban, mae angen i chi wneud cais am Daliad Anabledd Oedran Pensiwn yn hytrach na Lwfans Gweini.
Enghraifft: Mae Joan yn 74 oed ac nid yw’n gallu symud o gwmpas mor hawdd ag yr oedd cynt. Mae angen rhywfaint o gymorth arni i wisgo ei hun yn y bore ac i fynd i mewn ac allan o’r gwely. Ar ôl siarad â’i chymydog a gwirio ar-lein, sylweddolodd y byddai’n gymwys i gael Lwfans Gweini. Ffoniodd Cyngor ar Bopeth, a’i helpodd gyda’i ffurflenni cais. Mae bellach yn cael £74.60 ychwanegol yr wythnos, y gall ei wario i helpu i wneud ei bywyd yn haws.
Gwneud cais am Lwfans Gweini
Os ydych yn meddwl y gallech fod yn gymwys i gael Lwfans Gweini ond bod angen rhywfaint o help arnoch, mae’r sefydliadau canlynol yn cynnig cymorth dibynadwy am ddim:
- Independent Age – ffoniwch 0800 319 6789 neu ewch i Independent Age
- Cyngor ar Bopeth — ffoniwch 0800 702 2020 neu ewch i Gyngor ar Bopeth neu Citizens Advice Scotland
- Eich meddyg teulu neu hwb cymunedol lleol — gofynnwch i’ch meddygfa neu’ch cyngor lleol pa gymorth sydd ar gael yn eich ardal
Gallwch hefyd ffonio llinell gymorth swyddogol Lwfans Gweini (0800 731 0122) i gael cymorth.
Bydd y fideo canlynol yn eich arwain gam wrth gam drwy’r broses o wneud cais am Lwfans Gweini ar-lein.
Enghraifft: Roedd Michael yn dioddef o arthritis ac yn ei chael hi’n anodd defnyddio’r cyfrifiadur. Yna cafodd alwad gan gwmni rheoli ceisiadau a gynigiodd wneud ei gais am Lwfans Gweini. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, dechreuodd gael rhywfaint o arian ychwanegol gan y DWP. Roedd yn hapus am ychydig wythnosau, ond ar ôl siarad â’i ffrindiau, sylweddolodd y gallai fod wedi gwneud cais ei hun neu gael cymorth a chefnogaeth am ddim gan Independent Age i’w gwblhau. Byddai wedi cael yr holl arian a oedd yn ddyledus iddo, yn hytrach na dim ond rhywfaint ohono. Mae bellach yn difaru defnyddio’r cwmni gan y gallai fod wedi cael cymorth am ddim yn lle hynny.
Os ydych yn byw yn yr Alban, mae angen i chi wneud cais am Daliad Anabledd Oedran Pensiwn yn hytrach na Lwfans Gweini. Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, mae ffordd wahanol o wneud cais.
Gwneud cais am Lwfans Gweini ar-lein
Os ydych am wneud cais drwy’r post, gallwch lawrlwytho’r ffurflen a chael y cyfeiriad yma.
Efallai y bydd y nodiadau cysylltiedig hyn hefyd yn ddefnyddiol i’ch helpu gyda rhai o’r cwestiynau yn y ffurflen gais.
Mae cynnwys yr enghreifftiau ar y dudalen we hon at ddibenion enghreifftiol yn unig.