Skip to main content

Mae gwneud cais am eich budd-daliadau am ddim

A ydych yn credu y gallech fod yn gymwys i gael Lwfans Gweini neu Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref?

Os ydych yn byw yn yr Alban, mae angen i chi wneud cais am Daliad Anabledd Oedran Pensiwn yn hytrach na Lwfans Gweini.

Mae’n bosibl y bydd cwmni sy’n cynnig eich helpu i wneud cais am eich budd-daliadau a’ch hawliau yn cysylltu â chi’n annisgwyl. Efallai y byddant yn dweud eu bod yn gallu gwneud cais ar eich rhan am ddim, heb unrhyw gostau ymlaen llaw, ond yn aml mae ffioedd cudd yn gysylltiedig â’u gwasanaethau. Gall hyn gostio cymaint â hanner yr arian sy’n ddyledus i chi.

Faint DDylai Pensiynwyr ei Dalu i Wneyd Cais Am Ey Budd-Daliadau? Peidiwch a thalu i wneud cais

Mae’n hawdd cytuno i gontract llafar heb sylweddoli eich bod wedi gwneud hynny. Os bydd rhywun yn cysylltu â chi, neu os ydych yn adnabod rhywun y mae un o’r cwmnïau hyn wedi cysylltu â nhw, dylech sicrhau eich bod yn deall ei gynnig a’r ffioedd sy’n gysylltiedig â’r cymorth y mae’n ei gynnig. Os nad ydych yn ofalus, gallant wneud cais twyllodrus ar eich rhan.

Peidiwch â thalu i wneud cais. Nid oes angen i chi ddefnyddio’r cwmnïau hyn oherwydd mae gwneud cais am eich budd-daliadau a’ch hawliau yn uniongyrchol gan y llywodraeth bob amser am ddim.

Mae Lwfans Gweini yn helpu gyda chostau ychwanegol os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu’n hŷn ac os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd sy’n ddigon difrifol fel bod angen rhywun i helpu i ofalu amdanoch. Darganfyddwch a ydych yn gymwys a pha gymorth annibynnol sydd ar gael i’ch helpu i wneud cais.

Beth yw Lwfans Gweini a sut i wneud cais

Os gwnaethoch hawlio Budd-dal Plant (Lwfans Teulu gynt) rhwng 1978 a 2010, dylech fod wedi cael Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref (HRP) yn awtomatig. Yn anffodus, ni chofnodwyd HRP yn gywir ar gyfer rhai pobl. Darganfyddwch a ydych yn gymwys a pha gymorth annibynnol am ddim sydd ar gael i’ch helpu i wneud cais.  

Beth yw Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref ac a ydych yn gymwys